Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd AGGCC 2009 -10

Cefndir
Nod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yw gwella gofal a chymorth yng Nghymru.  Ei rôl yw sicrhau bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheoledig yn aros yn ddiogel a bod safon gwasanaethau yn parhau i wella drwy sicrhau cofrestru effeithiol, arolygu a gweithgarwch gorfodi er budd pobl Cymru.  Mae AGGCC hefyd yn rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisi.

Mae’r astudiaeth achos hon yn edrych ar y gwaith a gynhelir gan AGGCC i gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, staff a rhanddeiliaid wrth ddatblygu Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2009-10.

Digwyddodd y broses o lunio’r adroddiad hwn ar adeg pan oedd AGGCC yn bwriadu gwella’r ffyrdd mae’n ymgysylltu â dinasyddion a dangos ei ymrwymiad i’w rhoi wrth wraidd ei waith.  Ar yr adeg hon cysylltodd â Cyfranogaeth Cymru i gydweithio i ymgymryd â’r gweithgaredd ymgysylltu cychwynnol.

Roedd brîff AGGCC i Cyfranogaeth Cymru yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a theuluoedd i ddylanwadu ar y cyfeiriad teithio.  Roedd hefyd am gynyddu llais y defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar bob lefel wrth barhau i gadw pobl yn ddiogel drwy ei waith yn cofrestru gwasanaethau, arolygu, mynd i’r afael â pherfformiad gwael ac ysgogi gwelliant.

Nodau

Fel rheolydd nododd AGGCC yr angen i ymgysylltu â phobl fel y gallai ddarparu gwybodaeth well ynghylch effaith gwasanaethau rheoledig ar eu bywydau.  Rhagwelwyd y byddai hyn yn galluogi’r arolygiaeth i weithio gyda phobl i sicrhau newid cadarnhaol drwy allu dibynnu ar y wybodaeth a gafwyd o safbwyntiau a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill.  Yn gyffredinol mae AGGCC yn parhau i ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’i waith pwysig ac mae hefyd yn awyddus i chwalu unrhyw rwystrau canfyddedig a all fodoli o ran cyfathrebu rhwng y mudiadau, pobl sy’n byw mewn cymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill.

Yn gyffredinol ymrwymiad AGGCC yw gosod pobl wrth wraidd popeth a wna fel bod dealltwriaeth mai’r unigolyn yw’r arbenigwr pan ddaw at nodi eu hanghenion eu hunain a mynd i’r afael â hwy.  Mae ganddo’r potensial i roi pwer i bobl, fel eu bod yn rheoli eu hanghenion eu hunain o ran iechyd a gofal cymdeithasol gyda chyfle iddynt gael perchnogaeth ar beth sy’n digwydd yn eu bywydau.

Ble i ddechrau?

Y cam cyntaf a gymerwyd oedd nodi rhanddeiliaid i ymgysylltu â hwy, a chyfleoedd lle gallai AGGCC ymgysylltu â hwy.  Gweithiodd Cyfranogaeth Cymru gyda AGGCC i gynnal dadansoddiad o randdeiliaid.  O’r gwaith dadansoddi hwnnw penderfynwyd y byddai AGGCC yn gweithio gyda chwe grwp allweddol o randdeiliaid yn y cam cyntaf hwn o’u rhaglen ymgysylltu.  Cafodd pum categori o ddefnyddwyr gwasanaethau eu nodi:

•  iechyd meddwl
•  anableddau dysgu (oedolion)
•  pobl hyn
•  plant a phobl ifanc a
•  gofalwyr.

Cafodd grwp ychwanegol ei glustnodi ar gyfer darparwyr gwasanaethau.

Ar yr adeg hon penderfynwyd mai’r ffordd orau i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau fyddai drwy grwpiau ffocws, cyfweliadau un i un a holiaduron.  Byddai’r gwaith yn cael ei gynnal mewn chwe ardal ranbarthol ledled Cymru i sicrhau lledaeniad daearyddol ac i gwmpasu prif ardaloedd y gwasanaethau cymdeithasol a gwaith gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yr opsiwn a ddewiswyd oedd gweithio gyda grwpiau presennol sy’n cwrdd yn rheolaidd ac y byddai’n fodlon i’r grwpiau ffocws gael eu cynnal yn un o’u sesiynau rheolaidd.  Byddai hyn yn sicrhau bod y sesiynau yn cael eu cynnal mewn amgylchedd cyfarwydd, cyfforddus ac na fyddai ymgysylltu yn faich ychwanegol ar gyfranogwyr.  Ar gyfartaledd roedd pob grwp ffocws yn para nawdeg munud a phennwyd cyflymder y grwp gan y defnyddwyr gwasanaethau.  Yn y sesiwn honno byddai aelod o AGGCC yn rhoi trosolwg chwarter awr o hyd ar y mwyaf.

Yna gwnaeth Cyfranogaeth Cymru hwyluso’r sesiwn a rhoi cwestiynau gosodedig i ddefnyddwyr gwasanaethau i ysgogi trafodaeth.  Cafodd y rhan fwyaf o sesiynau eu rhannu i grwpiau bychain yn cynnwys ychydig o ddefnyddwyr gwasanaethau, eu gofalwyr a naill ai aelod o AGGCC neu Cyfranogaeth Cymru.  Ymddengys bod hyn yn gweithio’n dda gan fod defnyddwyr gwasanaethau yn teimlo’n hamddenol yng nghwmni grwp llai gyda’r gofalwr yn bresennol i gynnig cymorth ac arweiniad.  Cafodd yr adborth ei nodi gan naill ai AGGCC neu Cyfranogaeth Cymru.  Roedd y trafodaethau yn fywiog ac roedd y defnyddwyr gwasanaethau yn amlwg yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu eu profiadau.

Yna cafodd yr adborth o’r grwpiau ffocws i gyd ei gasglu gan staff Cyfranogaeth Cymru a’i drefnu.  Cafodd hwn ei fwydo i’r adroddiad, a gyhoeddwyd ar-lein a’i anfon at y rheini a gymerodd ran.

Beth sydd wedi’i gyflawni?
Mae natur rymusol a’r broses dryloyw o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid wrth greu’r adroddiad blynyddol wedi arwain at gynnydd yn hygrededd allanol AGGCC.  Mae AGGCC hefyd wedi cael mwy o sicrwydd cyhoeddus drwy ganolbwyntio ar yr hyn mae pobl yn dweud wrthynt a chymryd camau gweithredol lle bo’n briodol.

Mae’r broses hon hefyd wedi rhoi gwybodaeth safonol i AGGCC am yr effaith neu beidio y mae asiantaethau gofal a gwasanaethau cymdeithasol yn ei gael ar fywydau pobl a bydd hynny yn helpu i ddatblygu agenda o welliant parhaus.  Yn ogystal mae wedi rhoi cyfle i ddatblygu cydberthnasau presennol ymhellach gyda defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid i hwyluso cronfa rwydweithio gynyddol ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol.

Mae fformat yr adroddiad blynyddol wedi’i newid ac mae’n haws ei ddeall.  Mae’r adborth wedi arwain at newid mewn datblygiad dysgu yn y dyfodol a rhaglen gadarn o foderneiddio yn AGGCC drwyddo draw.

Heriau
Croesawodd AGGCC hwyluso annibynnol y grwpiau ffocws gan felly annog Cyfranogaeth Cymru i ymgymryd â’r rôl honno.  Cytunwyd o’r dechrau y byddai Cyfranogaeth Cymru a AGGCC yn cydweithio i gyfuno meysydd o arbenigedd y staff er budd y cyfranogwyr rheini sy’n mynychu’r grwpiau ffocws.  Roedd staff AGGCC yn bresennol yn y rhan fwyaf o grwpiau ffocws i roi golwg arbenigol ar eu gwaith.

Roedd hon yn ffordd newydd o weithio i bawb; y mae pawb wedi cydnabod y manteision o gael y gorau o’r cyfleoedd i gasglu adborth yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaethau i wella eu profiadau o ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.  O ganlyniad, mae’r diwylliant yn fewnol ac yn allanol i AGGCC yn newid er gwell a’r gobaith yw parhau â’r rhaglen hon o  ymgysylltu i hwyluso ffyrdd newydd a gwahanol o sicrhau adborth gan bob rhan o’r gymuned.

Her arall y gwnaeth Cyfranogaeth Cymru ac AGGCC ei goresgyn oedd trefnu’r grwpiau ffocws a chydweddu staff o fewn amser byr.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Yn dilyn llwyddiant y prosiect mae AGGCC wedi parhau i ddatblygu Strategaeth Ymgysylltu drafft yn seiliedig ar syniadau a barn defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill.  Ar 4 Ionawr 2012 daeth cyfnod ymgynghori chwe mis ar y strategaeth hon i ben.  Cafodd ystod eang o ymatebion gan y cyhoedd a staff eu casglu drwy arolwg ar-lein a thrwy ddulliau cyfranogol eraill.

Bydd AGGCC hefyd yn cynnal grwp ffocws dilynol o’r gwaith cychwynnol i archwilio a yw profiadau defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf.  Bydd hefyd yn bwriadu dilyn awgrymiadau eraill a wnaed gan y grwpiau ffocws, yn cynnwys DVD ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, gan ddefnyddwyr gwasanaethau a grwpiau cyfeirio lleol.

Bellach mae gan y Prif Arolygydd amserlen ymgysylltu fisol gyda defnyddwyr gwasanaethau ac mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda Gwasanaethau Gofalwyr Wrecsam, Age Cymru a ABCD Cymru.

Mae Bwrdd Rheoli AGGCC wedi cytuno ar sesiynau ymgysylltu chwarterol ar draws y rhanbarthau ac mae eisoes wedi cyfarfod â grwp ‘Dweud eich Dweud’ Cyngor Torfaen.

Caiff cylchlythyr rhanddeiliaid chwarterol ei gynhyrchu bellach a chyn gynted ag y caiff adroddiadau allweddol eu cyhoeddi, caiff yr holl randdeiliaid eu hysbysu drwy e-rybudd.

Mae hwn yn rhan o gynllun ymgysylltu strategol a gwelliant tair blynedd ar gyfer AGGCC, a thrwyddo ei nod yw cyflawni newid diwylliannol parhaol.

Gwybodaeth bellach

Mae gwybodaeth bellach ar AGGCC ar gael o www.cssiw.org.uk neu drwy e-bostio cssiw@wales.gsi.gov.uk.

Os hoffech drafod sut allai Cyfranogaeth Cymru gynorthwyo gyda gwaith ymgysylltu ymarferol y mae eich mudiad yn ymgymryd ag ef, e-bostiwch participationcymru@wcva.org.uk.
 Postiwyd gan Arfer Da Cymru
 12/01/2012   Categorïau: CSSIW
Graddiwch y cynnwys yma 0 Pleidleisiau