Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu cynllun codi arian i’ch mudiad drwy bwyso a mesur ble rydych nawr, amlinellu ble rydych am fod a chynllunio sut rydych am gyrraedd yno.
Bydd yn ymdrin ag elfennau fframwaith cynllunio codi arian a’r ffordd mae’r rhain yn cyd-fynd â phrosesau cynllunio strategol eraill, gan gynnwys cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd ac amcanion y mudiad.
Bydd y cwrs yn eich dysgu sut i gynnal archwiliad codi arian gan ddefnyddio offer cynllunio megis dadansoddiad PEST, dadansoddiad o gystadleuwyr, dadansoddiad cydweithio, dadansoddiad o’r farchnad a dadansoddiad mewnol.
...
darllen mwy