Cynhadledd Flynyddol AWCIC 2018

Bydd 7fed Cynhadledd Flynyddol Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan yn cael ei chynnal ar 22 Tachwedd 2018. Ym mis Mai eleni, dychwelodd Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru i Barc Margam ar gyfer gwobrau blynyddol 2018, ac mae’n braf cyhoeddi bod cynhadledd eleni yn dychwelyd i Ganolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i rwydweithio a chwrdd ag eraill o'r Gymuned Gwelliant Parhaus yng Nghymru a thu hwnt a chlywed sut mae cydweithwyr yn yr Alban yn ysbrydoli cymunedau i gydweithio, gan wella Gwasanaethau Cyhoeddus. Ymgysylltwch ag eraill i archwilio beth yw Gweddnewid a gwrando ar rai siaradwyr gwadd a fydd yn rhannu’u profiadau.
Thema eleni yw:
Gweddnewid Gwasanaethau Cyhoeddus - Cymunedau, Cydweithredu a Gwelliant Parhaus
Mae mwy a mwy o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn cydnabod bod angen gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau. Bydd cael gwasanaethau cynaliadwy sy’n bodloni disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau heddiw ac yn y dyfodol mewn ffordd ddibynadwy yn gofyn am ffyrdd gwahanol o feddwl. Gweddnewid, i bob golwg, yw’r dull y mae mwy a mwy o sefydliadau am ei ddefnyddio. Ond, mae llawer o sefydliadau’n cael trafferth pennu beth ydy gweddnewid a sut mae’n cael ei gyflwyno. Nod y gynhadledd hon fydd rhoi’r cyfle i’r cyfranogwyr archwilio’r broses gweddnewid a sut mae cymunedau sy’n cydweithio mewn perthynas â nodau cyffredin yn defnyddio technegau Gwelliant Parhaus i gael yr atebion.
Ynghyd â’r siaradwyr gwadd, bydd cyfle hefyd i wrando ar enillwyr gwobrau AWCIC eleni, ac i gael gweithdai/cyflwyniadau a fydd yn sôn am bob math o bynciau. Gyda chyfleoedd i rwydweithio, bydd modd i chi ehangu eich cysylltiadau personol yn ogystal â chreu rhwydweithiau a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Cafwyd adborth da ar gyfer digwyddiad y llynedd ac roedd dros 200 o bobl yn bresennol, felly rydym yn teimlo bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiant i’r gymuned. Mae'r tair cynhadledd ddiwethaf wedi datblygu wrth i ni gyflwyno ffi fechan, ac mae hyn wedi helpu i sicrhau bod y cynadleddau yn llwyddiant. Ac ystyried hynny, mae’n bwysig ein bod yn codi ffi unwaith eto. Y newyddion da yw na fydd y ffi yn newid, a £75 fydd cost y gynhadledd unwaith eto. Eleni, fe fydd gostyngiad ar gael ar gyfer grwpiau, gyda 5 tocyn am £300 neu 10 am £525.
https://www.eventbrite.co.uk/e/7th-annual-all-wales-continuous-improvement-community-conference-tickets-50211575173?aff=ebdssbdestsearch