Comisiynydd y Gymraeg

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Mae swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys:

  • hybu defnyddio’r Gymraeg
  • hwyluso defnyddio’r Gymraeg
  • gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’r ymwneud â’r Gymraeg.
  • cynnal ymholiadau i faterion sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiynydd
  • ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg.